(A history of the Labour party in Welsh by one of its longest standing activists)

A hithau wedi dominyddu Gwleidyddiaeth Cymru ers dechrau'r ugeinfed ganrif y Blaid Lafur Gymreig yw un o'r pleidiau gwleidyddol fwyaf llwyddiannus mewn unrhyw wlad ac mae ganddi ran hollol ganolog yn hanes Cymru dros y ganrif a hanner ers ei sefydlu. Mae gan Gymru ei hun lle hynod bwysig yn hanes y Blaid Lafur gan mai yng Nghymru yr ennillodd y Blaid ei buddugoliaethau etholaethol cyntaf a Chymru fu ei chadarnle hynaf a chryfaf erioed.

Serch hynny cyn nawr ni fu ymdrech i olrhain a chrynhoi hanes cyflawn y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr Iaith Gymraeg o'i rhagflaenwyr ymysg Cristnogion sosialaidd fel Robert Owen drwy at fuddugoliaethau ffurfiol cyntaf y blaid ar ddechrau'r ugeinfed ganrif cyfnodau cythryblus mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid a'i chyfnodau o lwyddiant ac o fethiant yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Telir sylw teilwng i ffigyrrau Cymreig blaenllaw'r blaid ac i'r cwestiynau hynny oedd o ddiddordeb neilltuol iddynt megis datganoli a'r Iaith Gymraeg.

Mae D. Ben Rees wedi bod yn weithgar gyda'r Blaid Lafur ers y 1950au ac eisoes wedi cyhoeddi bywgraffiadau i amrywiaeth o unigolion ag iddynt ran flaenllaw yn y gyfrol hon fel Cledwyn Hughes a Jim Griffiths.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.