Cysgodau y Blynyddoedd Gynt

About The Book

(The first ever publication of Gwyneth Vaughan's Third Novel; with an introduction by Rosanne Reeves)I'r hen Gymry gynt un o arwyddion y nefoedd ydoedd yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai'r goleuni yn wyn disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus ond os goleuni coch fyddai yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau.Y Sgweier cyfrwys sy'n ceisio rhwydo'r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy'n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy'n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy'n rheibio'r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs y Sipswn sy'n cyslltu'r rhain i gyd gyda'i gilydd-ac sydd â llawer mwy iddynt na'r golwg... Wedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1907 Cysgodau y Blynyddoedd Gynt oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae'n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves. Ynddi cawn portread celfydd o gymuned glan môr ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg: eu gofid a'u gorfoledd eu dyheu a'u dathlu. Dyma hanes gyffrous o ddirgelwch a rhagrith o oddefgarwch ac o faddeuant; ond gyda'r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry'r gorffennol o'r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol. Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig... -Mari Ellis
Piracy-free
Piracy-free
Assured Quality
Assured Quality
Secure Transactions
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.
Review final details at checkout.
downArrow

Details


LOOKING TO PLACE A BULK ORDER?CLICK HERE