Cyfrol o farddoniaeth gyda darluniau gwreiddiol mewn lliw.
Tarddodd Cyswllt o angen siarad am bethau sy'n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino â phwnc anabledd. Dyma lyfr sy'n bwriadu datgelu'r emosiynau a'r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gwëwyd y cerddi o gariad ac anobaith siom bliner a'r grym mewnol sy'n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os dyn ni'n dofi ofn arwahanrwydd.
<span style=color: rgba(0 0 0 1)>Mae <strong style=color: rgba(0 0 0 1)>Jadwiga Grabo?<span style=color: rgba(0 0 0 1)> yn ysgrifennu cerddi rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019 mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol <em style=color: rgba(0 0 0 1)>Cyswllt<span style=color: rgba(0 0 0 1)> y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol ?widnica 2023. Graddiodd mewn Almaeneg a'r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Sk?odowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o'r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi'n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae'n ymddiddori mewn theatr ffilm cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd mae hi'n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.
<span style=color: rgba(0 0 0 1)>Mae <strong style=color: rgba(0 0 0 1)>Marta Listewnik<span style=color: rgba(0 0 0 1)> yn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Pozna?. Mae wedi cyfieithu a chyhoeddi pedair nofel Gymraeg ym Mhwyleg ers 2017. Hwn fodd bynnag yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i'r Gymraeg.
Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.