Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill

Eben Fardd

Eben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon Gwynedd gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llŷn ac mewn mân swyddi eraill.

Roedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng gyda'i awdl Dinistr Jerusalem ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl Y Flwyddyn.

Eben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes: yng ngeiriau Thomas Parry gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.