(Welsh translation of George Orwell's classic political allegory Animal Farm)

Mae ngolwg i'n pylu meddai hi o'r diwedd. Hyd yn oed pan oeddwn yn eboles fedrwn i ddim darllen be sy 'di'i sgwennu yna. Ond i nhyb i mae golwg wahanol ar y wal 'na. Ydi'r Saith Gorchymyn 'run fath ag y bydden nhw Eban?

Am unwaith cydsyniodd Eban i dorri ei reol a darllenodd iddi be oedd wedi'i sgwennu ar y wal.

Bellach doedd dim byd yno ond un Gorchymyn. Dyma'i fyrdwn:

MAE POB ANIFAIL YN GYDRADD OND MAE RHAI YN FWY CYDRADD NA'I GILYDD.

Roedd George Orwell sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol

yr ugeinfed ganrif. Foel yr Anifeiliaid sef Animal Farm oedd ei nofel olaf ond un. Yn alegori sy'n dychanu sefydlu'r Undeb Sofietaidd mae'n portreadu llygredd dyn a'r ffordd y gall y syniadau mwyaf aruchel gael eu meddiannu at ddibenion totalitaraidd. Ystyrir hi'n un o nofelau pwysicaf yr ugeinfed ganrif; y cyfieithiad hwn gan Anna Gruffydd yw'r tro cyntaf iddi fod ar gael yn y Gymraeg.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.