(Welsh translation of the stories of H. P. Lovecraft)

'Nid marw yw'r sawl a huna'n fythol brudd;

Daw tranc marwolaeth hyd yn oed ryw ddydd.'

Yr Americanwr H. P. Lovecraft yw un o lenorion pwysicaf meysydd ffuglen arswyd ffuglen wyddonol a ffantasi. Fel yn achos Orwell a Kafka mor wreiddiol a neilltuol yw ei arddull a'i destunau fel y bathwyd yr ansoddair Lovecraftaidd i ddisgrifio ffuglen yn yr un genre.

Mae ei straeon yn gyforiog o ddirgelwch a chyffro. Ceir ynddynt gyfrinachau sydd yn llechu ar wely'r môr... siambrau tywyll ymhell islaw'r ddaear... hen lyfrau'n cuddio cyfrinachau oes... a chreaduriaid erchyll sydd y tu hwnt i amgyffred pobl!

Dyma'r tro cyntaf i ffuglen Lovecraft ymddangos yn y Gymraeg. Mae'r casgliad yn cynnwys pump o straeon enwocaf yr awdur gan gynnwys Galwad Cthulhu stori fythgofiadwy a gyflwynodd i'r byd yr anghenfil tentaclog o'r sêr Cthulhu. Y cyfeiithydd Peredur Glyn yw awdur Pumed Gainc y Mabinogi a Cysgod y Mabinogi gweithiau wedi'u hysbrydoli'n uniongyrchol gan waith H. P. Lovecraft.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.