Mae'r gyfres Gweithgareddau Ategol yn cynnwys gweithgareddau llun-gopïadwy i'w defnyddio gyda dysgwyr araf neu ddisgyblion gydag anawsterau dysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r llyfrau'n cyflwyno un cysyniad ar bob taflen gan ddefnyddio iaith syml a llinellau du clir ar luniau sy'n eu gwneud yn hawdd i'w darllen a'i deall.Mae Deall Pethau Byw yn cynnwys 42 o daflenni llun-gopïadwy i helpu disgyblion i ddeall prosesau bywyd a phethau byw. Mae'r taflenni'n atgyfnerthu dulliau ymchwil gwyddonol drwy fynnu bod disgyblion yn cynllunio gwneud gweithgareddau ymarferol ystyried tystiolaeth a chyflwyno syniadau a chasgliadau. Mae'r taflenni'n canolbwyntio ar brosesau bywyd sy'n gyffredin i bopeth byw pobl ac anifeiliaid eraill a phlanhigion gwyrdd yn ogystal â sut mae pethau byw yn cysylltu â'u hamgylchedd.
Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.