(A new edition of a classic Welsh language mystery novel by R. Silyn Roberts originally published in 1906)

...noson oedd hon i lenwi'r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear a newidiai cysgodion brigau'r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai'r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i'r dychymyg; a swniai'r gwynt trwy'r brigau a'r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan gwelw'r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol a hawdd i feddwl dyn oedd llithro i stad freuddwydiol ac ofnus ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd.

Ar eu gwyliau yng Nyffryn Llifon mae Gwynn Morgan a'i gyfaill y Ffrancwr Ivor Bonnard yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd Plas y Nos ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed mewn gwirionedd ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno yn y lle cyntaf?

Stori ddirgelwch gyffrous sy'n cyflwyno elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn

1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.