MAE'R BRAWD MAWR YN EICH GWYLIO CHI...

Ar gael am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg Mil Naw Wyth Deg Pedwar yw nofel arswydus George Orwell am ddyfodol tywyll dan lywodraeth dotalitaraidd.

Roedd George Orwell sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Nodweddir ei waith gan sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaethau o dotalitariaeth ei gyfnod sydd eto'n oesol ac mae ei gampweithiau mwyaf adnabyddus yn eu plith Animal Farm a Nineteen Eighty-Four ymhlith y nofelau mwyaf poblogaidd erioed mewn unrhyw iaith.

Wedi'i chyhoeddi'n wreiddiol yn 1948 hwyrach mai Nineteen Eight-Four yw'r nofel ddistopaidd enwocaf erioed a bu'n gyfrifol am gyflwyno bathiadau newydd i'r iaith Saesneg fel Big Brother Doublethink Thought Police ac Orwellian.

Sylwer: Dyma'r fersiwn clawr papur yn y gyfres Clasuron Byd. Mae fersiwn Clawr Caled ar gael hefyd gyda deunydd ychwanegol.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.