<p>Netty a'r Cynllun Dianc MawrLlyfr plant llawn dychymyg a chynhesrwydd yw Netty a'r Cynllun Dianc Mawr - stori am ddewrder creadigrwydd a grym credu yn dy hun. Mae Netty wedi'i chloi yn ei hystafell wedi'i dal gan bwystfil sy'n llechu yn y cyntedd. Mae'n fawr... ac yn ofnadwy! Wedi'i hysbrydoli gan ei theganau a'r pethau o'i chwmpas mae Netty'n breuddwydio am gynlluniau dianc beiddgar: lleihau fel llygoden hedfan fel cawr hyd yn oed dringo boncyff ffa i'r cymylau. Ond waeth pa mor wyllt yw'r syniadau mae'r anghenfil dal yno... tan mae ei thad yn ei hatgoffa o rywbeth pwerus - dim ond aer poeth yw'r bwystfil.Gyda'i hanadl dwfn gyntaf mae Netty'n wynebu'r ofn yn syth gan wylio'r bwtstfil yn crebachu ac yna diflannu. Mae'r stori hyfryd hon wedi'i darlunio'n hardd yn cyfuno antur dychymyg ac neges ddofn i ddarllenwyr o bob oed: weithiau dim ond mor fawr â'n dychymyg yw ofn.</p>