O Law i Law

About The Book

(New edition of T. Rowland Hughes's classic Welsh language novel O Law i Law)

Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma'r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F'ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny ond ni newidiasai'r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb efallai a dyfnhau'r archollion yn ei mynwes ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed.

Wedi marw ei rieni mae John Davies chwarelwr canol oed yn clirio eu tŷ drwy werthu eu heiddo 'o law i law' i'w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae'n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a'i fagwraeth ei berthynas gyda'i rieni a'i ewythr a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni.

Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law ei nofel gyntaf; ond bu'r llyfr a'r nofelau a'i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i'w hawdur na phrofasai'r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw'r tawelaf a'r mwynaf o'i nofelau a'r un sy'n dwyn y mwyaf o'i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.

Piracy-free
Piracy-free
Assured Quality
Assured Quality
Secure Transactions
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.
Review final details at checkout.
downArrow

Details

LOOKING TO PLACE A BULK ORDER?CLICK HERE