Plant y Gorthrwm

About The Book

(The Welsh novel Plant y Gorthrwm by Gwyneth Vaughan)Onid gwaith anodd iawn yw i fachgen barchu ei fam pan nad yw mewn uwch sefyllfa na chader neu fwrdd yn y t? neu os mynnwch un o'r anifeiliaid oddi allan?Y flwyddyn yw 1868 ac am y tro cyntaf mae cyfran fawr o ddynion Cymru'n cael pleidleisio mewn etholiad. Ond mewn oes pan oedd pleidleisio'n gyhoeddus beth fydd y canlyniadau i'r sawl sy'n bwrw pleidlais dros ryddid a chyfiawnder ac yn erbyn y drefn? Wedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1905 Plant y Gorthrwm oedd ail nofel Gwyneth Vaughan ac hon o'i holl nofelau yw'r mwyaf gwleidyddol a'r un sy'n dadlau gryfraf dros bawb sy'n cael cam: boed hynny oherwydd eu daliadau eu dosbarth cymdeithasol eu cenedl neu eu rhywedd. Dyma un o nofelau mawr ei chyfnod yn yr iaith Gymraeg gan awdures sy'n haeddu ei chyfri ymhlith awduron blaenaf yr iaith.Deil [nofelau Gwyneth Vaughan] gymhariaeth â llawer ystori a fu'n dra llwyddiannus yn Lloegr a rhagorant y tu hwnt i gymhariaeth ar y chwedlau Saesneg am Gymru a ysgrifennwyd gan Saeson neu Gymry Seisnig.-T. Gwynn Jones
Piracy-free
Piracy-free
Assured Quality
Assured Quality
Secure Transactions
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.
Review final details at checkout.
downArrow

Details


LOOKING TO PLACE A BULK ORDER?CLICK HERE