Wele saith stori â digrifwch melys yn fwrlwm trwyddynt a'r cymeriadau yn rhai nad anghofir mohonynt yn rhwydd storïau y gellir troi iddynt drachefn a thrachefn i chwerthin eto am ben helbulon pobl Llanaraf. T Rowland Hughes Enillodd W J Griffith wobr ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig am ei stori Eos y Pentan yn 1924 cyhoeddwyd Yr Hen Siandri yn Y Genedl yn 1925 ac fe ymddangosodd stori newydd yn rheolaidd ganddo hyd Nadolig 1930. Casglwyd y storïau hyn at ei gilydd gan T Rowland Hughes ac fe'u cyhoeddwyd yn 1938 dan y teitl Storïau'r Henllys Fawr. Bu farw W J Griffith cyn i'r gyfrol weld golau dydd. Darlledwyd addasiadau teledu o'r straeon gan Gareth Miles ar S4C yn yr 1980au.
Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.