(Selection of the poetry of the 19th century Welsh poet Talhaiarn (John Jones 1810-1869))

Mae rhai yn brysur iawn yn casglu golud

Drwy lafur blin a chwys y corff a'r 'mennydd:

Pentyrru llwyth o gyfoeth yw eu gwynfyd

Gan ychwanegu stôr o'r môr a'r mynydd;

Gofalu a phryderu drwy eu bywyd

Yn ofni colled ac yn caru cynnydd;

Ond teimlant pan yn hen a hurt a charbwl

Mai gwagedd ac oferedd yw y cwbl.

Cymerodd Talhaiarn sef John Jones (1810-1869) ei enw barddol o'i dref enedigol sef Llanfair Talhaearn yn y Sir Ddinbych hanesyddol. Roedd yn un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond hefyd un o'r rhai mwyaf dadleuol oherwydd ei fywyd afradlon ei bersonoliaeth cwerylgar a'i wleidyddiaeth.

Roedd yn ddylanwad mawr nid yn unig ar ei gyfoeswyr ond ar feirdd telynegol yr ugeinfed ganrif. Mae'r detholiad hwn o'i gerddi yn cynnwys nifer o'i ganeuon sef y gweithiau yr oedd mwyaf adnabyddus amdanynt yn ystod ei ddydd ond hefyd ei englynion ei gyfieithiadau o waith Burns a Byron a'r cyhoeddiad cyflawn cyntaf mewn un llyfr o'i gampwaith hir Tal ar Ben Bodran un o weithiau llenyddol mwyaf trawiadol y Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.