(Welsh Translation of H. G. Wells The Time Machine)

Cydnabyddir H.G. Wells fel un o brif ffigyrau cynnar ffuglen wyddonol mewn unrhyw iaith. Ysgrifennodd dros bum deg o nofelau ac chyfrir y enwocafohonynt gan gynnwys The Time Machine The Island of Doctor Moreau The Invisible Man The War of the Worlds ac When the Sleeper Wakes ymhlith y straeon mwyaf enwog a phoblogaidd erioed. Cafodd ei enwebu bedwar gwaith ar gyfer wobr Nobel mewn llenyddiaeth.

Eiliad yn ddiweddarach roedden ni'n dau'n wynebu ein gilydd minnau a'r creadur bregus hwn o'r dyfodol. Daeth yn syth ataf i a chwarddodd yn uchel yn fy wyneb. Fe'm trawyd ar unwaith gan y ffaith nad oedd awgrym o ofn ynddo o gwbl.

Un noswaith yn Llundain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae gŵr ffraeth a hyddysg yn estyn gwahoddiad i grŵp o'i gyfoedion fod yn dyst wrth iddo arddangos ei ddyfais anhygoel newydd: y Peiriant Amser. Gyda hwn mae'n teithio cannoedd o filoedd o flynyddoedd i'r dyfodol ac yn cael ei hun mewn paradwys o'r golwg. Ond pam felly bod popeth i'w weld mewn adfeilion? A beth sy'n llechu dan wyneb y byd rhyfedd

newydd hwn?

Nofel gyntaf Herbert George Wells heb os yw un o'r portreadau enwocaf o'r dyfodol mewn ffuglen ac hyd heddiw mae'n un o'r

rhai mwyaf arswydus. Y cyfieithiad newydd hwn yw'r tro cyntaf i waith Wells fod ar gael yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd Y Peiriant Amser yn 1895 a hi oedd ei nofel gyntaf. Er nad hon oedd y nofel gyntaf i archwilio'r cysyniad o deithio mewn amser hon sefydlodd y syniad o 'beiriant amser' yn y ddychymyg boblogaidd. Heb os bu'n dylanwad ar Islwyn Ffowc Elis pan ysgrifennodd yntau Wythnos yng Nghymru Fydd y nofel Cymraeg enwocaf am deithio mewn amser.

(English Description)

This new edition of H. G. Wells Science Fiction classic The Time Machine is the first time any of Wells' books have been made available in Welsh.