(New edition of Welsh language novelist Daniel Owen's shorter fiction stories and poetry in the original Welsh; incorporating Y Siswrn)

Pa fath bobol syr ydach chi yn ein galw ni y Cymry? Slaves dienaid a di-ynni yr ydw i yn 'u galw nhw yn diodde y pla yma ers oesoedd.

Mi fyddaf yn synnu na fasen ni ers talwm wedi codi fel un gŵr i ymlid y lot ddiog hyn oddi ar ein porfeydd!

Maent yn casáu ein hiaith ac wedi gneud eu gorau i'n cael dan draed y Saeson ac ar yr un pryd y maent yn bwyta braster ein gwlad a chynnyrch ein tiroedd

-a ninnau a'n llaw wrth ein het iddynt am neud hynny!

Daniel Owen oedd awdur rhyddiaith bwysicaf ei oes. Er mai am nofelau y cofir ef yn bennaf ysgrifennodd hefyd nifer o weithiau byrrach ar

furf straeon byrion ac ysgrifau; roedd hefyd yn fardd achlysurol.

Casglwyd rhai o'r gweithiau hyn mewn cyfrol yn 1886 yn Y Siswrn a brofodd yn un o gyhoeddiadau mwyaf poblogaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys holl gynnwys Y Siswrn gan gynnwys stori fer orau'r awdur Yr Ysmygwr ynghyd a nifer fawr o weithiau ychwanegol na chawsant eu cyhoeddi erioed o'r blaen ar ffurf cyfrol.

...tour de force camp anghyffredin mewn maes hollol ddieithr iddo.

-Saunders Lewis am Yr Ysmygwr

Piracy-free
Assured Quality
Secure Transactions
Delivery Options
Please enter pincode to check delivery time.
*COD & Shipping Charges may apply on certain items.